Flora McLachlan RE RCA
Rwy’n gweithio o fy stiwdio a ‘ngweithdy fy hunan mewn ysgythriad a maenargraffiad carreg yng Ngorllewin Cymru, ar gyrion rhostir gwyllt, â choed cennog o’i gwmpas. Ces fy ethol yn aelod o’r Royal Society of Painter-Printmakers (RE) yn 2008 a dod yn Gymrawd yn 2018. Rwy’n gyfarwyddwr Aberystwyth Printmakers ac mae gan i MA mewn Celfyddyd Gain o Ysgol Gelf Aberystwyth. Rwy’n aelod o Academi Frenhinol Cambrian. Ymhlith fy ngwobrau mae Gwobr Norman Ackroyd am Ysgythru yn yr Impresssions Printmaking Biennial yn Iwerddon 2019, a’r Wobr Gyntaaf yn y Remarque International Print Prize 2019 yn Albequerque, UDA. Eleni, dangosais dri ysgythriad yn y Woolwich Contemporary Print Fair ac ro’n i ar y rhestr fer ar gyfer gwobr uchel ei pharch y Boodle Hatfield Print Prize 2023. Rwy’ wedi gweithio yng Nghasgliadau Amgueddfa Ashmolean a’r Amgueddfa Brydeinig.
Rwy’n mwynhau dehongli delweddaeth trwy baent a phrint a gwylio’r trawsffurfiad sy’n dilyn. Mae fy nelweddau yn deillio o’m synnwyr o elfennau archdeipaidd a mytholegol y tirlun, fel sydd i’w canfod yn y traddodiad chwedleua llenyddol. Tyfais i fyny yn darllen straeon tylwyth teg a straeon gwerin, ac rwy’n ymddiddori’n fawr yn y ffordd mae gwaddod y darllen hwn yn parhau yn ein dehongliad o, a’n cysylltiad gyda, y tirlun. Mae motiff y daith drawsnewidiol mewn rhamantau canol oesol yn elfen o ‘ngwaith, yn y teimlad o deithio allan i’r goedwig wyllt ac i mewn i ddirgelion yr hunan. Rwy’n fframio fy chwilio o fewn fy ymwneud gyda defnyddiau, boed hynny’n bapur, cynfas, plât copr, cardfwrdd neu garreg lithograffi, gan ymateb i’w natur a sylwi sut mae fy nefnyddiau i yn ei arnodi. Rwy’n hoffi gweithio gydag olion annisgwyl, yn arsylwi ac ymateb iddyn nhw, er mwyn breuddwydio’r ddelwedd i fodolaeth.