Sarah Lees
Ganed Sarah yn Coventry ym 1962, ac astudiodd Darlunio bywyd gwyllt yng Nghaerfyrddin cyn dilyn gyrfa fel darlunydd llawrydd. Enillodd BA mewn Celfyddyd Gain yn 2007 ac yna MA gyda Rhagoriaeth mewn Celfyddyd Gain yn 2014 ac mae’n arweinydd cwrs mewn Coleg AB tra’n parhau i beintio ac arddangos.
Ymhlith y sefydliadau celfyddydol sydd wedi dangos ei gwaith mae Oriel Myrddin, Tactile Bosch, Neuadd Dewi Sant, Oriel Lliw ac Elysium. Mae ganddi hefyd luniau mewn amrywiol gasgliadau preifat.