Digwyddiad crefft mawr newydd yn dod i Aberteifi
Mae’r ddelwedd yn dangos Sarah James MBE gydag arianwyr, partneriaid a chefnogwyr Gwyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi ar 9 Chwefror 2024. Llun gan Jennie Caldwell.
Mae trefnydd y portffolio llwyddiannus o ddigwyddiadau crefft gyfoes cenedlaethol, Sarah James MBE, wedi cyhoeddi y bydd hi’n lansio digwyddiad newydd sbon yn ei thref enedigol, Aberteifi. Cynhelir Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi dros dri diwrnod rhwng 6 – 8 Medi 2024.
Gwnaed y cyhoeddiad mewn sesiwn tynnu lluniau gyda Chyngor Sir Ceredigion a phartneriaid allweddol y digwyddiad, yn cynnwys Castell Aberteifi, Mwldan, Oriel Myrddin, Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Make it in Wales, Coleg Sir Gâr, QEST (The Queen Elizabeth Scholarship Trust) a Sea & Slate.
Bydd Gŵyl Grefft Cymru, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a QEST, yn arddangos gwaith gan ddetholiad a ddewiswyd yn ofalus o ryw naw deg gwneuthurwr eithriadol o bob rhan o Gymru a’r DU ‒ yn cynnwys gwneuthurwyr gemwaith, crochenwyr, gwneuthurwyr dodrefn, artistiaid tecstilau, gwneuthurwyr gwydr a llawer mwy ‒ a phob un yn gwerthu eu cynhyrchion coeth, unigryw yn uniongyrchol i’r cyhoedd.
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn croesawu pobl o bob oedran ac mae’n cynnig rhaglen gyffrous o weithdai crefft, arddangosiadau, a dosbarthiadau meistr gan rai o wneuthurwyr mwyaf blaenllaw’r DU. Dros y penwythnos yn y castell, bydd Pabell Grefft i Blant, a gefnogir gan Ganolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange, Amgueddfa Wlân Cymru, Coleg Sir Gâr a Theatr Byd Bach ‒ cyfle i blant fod yn greadigol a chael llawer o hwyl ar yr un pryd.
Ynghyd â’r gweithgareddau yn ystod y penwythnos, mae Gŵyl Grefft Cymru yn cyflwyno digwyddiadau ategol ar draws y dref, a fydd yn rhedeg am 4 wythnos. Mae’r uchafbwyntiau’n cynnwys yr arddangosfa gerameg, Significant Forms, lle bydd Oriel Canfas yn arddangos cerameg Gymreig o safon amgueddfa a guradir gan y crochenydd o Orllewin Cymru, Peter Bodenham; Prosiect Ieuenctid gyda Qest a Theatr Byd Bach, Llwybr Cerfluniau a gyflwynir gan Goleg Sir Gâr yn nhiroedd y castell; The Capital of Craft YN FYW (sgyrsiau yn y Plasty) a Llwybr Tref yr Ŵyl Grefft mewn chwe lleoliad lle bydd chwe gwneuthurwr datblygol yn cyflwyno gwaith newydd a ysbrydolir gan Gasgliad Amgueddfa Cymru ac a guradir gan Oriel Myrddin. Lleoliadau’r llwybr yw Mwldan, The Albion by Fforest, Crwst, Cardigan Bay Brownies, Awen Teifi, a Make it in Wales.
Mae Gŵyl Grefft Cymru yn rhan o bortffolio o ddigwyddiadau a drefnir gan Sarah James a Nina Fox, sydd hefyd yn cynnwys yr Ŵyl Grefft arobryn yn Bovey Tracey a Gŵyl Grefft Cheltenham. Sefydlwyd Gŵyl Grefft yn 2004 ac mae’n sefydliad nad yw’n gwneud elw sy’n dathlu ei Ugeinmlwyddiant yn 2024. Mae’r digwyddiad wedi tyfu o 2,000 o ymwelwyr i dros 10,000 ers iddo ddechrau, ac mae bellach yn un o ddigwyddiadau crefft blaenllaw Ewrop.
Meddai Sarah James: “Rydw i wrth fy modd o gael lansio Gŵyl Grefft Cymru yn fy annwyl dref enedigol, Aberteifi. Mae cynnal digwyddiad yma wedi bod yn uchelgais i mi ers tro, a diolch i gymorth gan Gyngor Sir Ceredigion, Cyngor Celfyddydau Cymru a’n partneriaid rhagorol, gallwn wireddu hyn. Mae Gŵyl Grefft yn ddathliad cydweithredol o wneud, a gefnogir gan sefydliadau celf blaenllaw yng Nghymru a thu hwnt. Mae’n gyfle gwych i wneuthurwyr dawnus arddangos, hybu a gwerthu eu gwaith, ac mae’n ddiwrnod allan ardderchog i bobl o bob oedran. Rydw i wir yn edrych ‘mlaen at y digwyddiad ym mis Medi yng Nghastell gogoneddus Aberteifi.”
Meddai’r Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio ar Gyngor Sir Ceredigion: “Rwy’n falch bod Cyngor Sir Ceredigion yn cefnogi Gŵyl Grefft Cymru ‒ mae’n gwireddu’r syniad o gynnal digwyddiad a drafodwyd gyntaf yn 2019. Mae Aberteifi yn lleoliad llewyrchus ar gyfer y celfyddydau gan fod llawer o fusnesau ac unigolion creadigol yn y rhanbarth. Bydd y digwyddiad yn gyfle gwych i wneuthurwyr o Geredigion dyfu eu busnesau, yn cynnig diwrnod allan gwych, ac yn denu ymwelwyr i’r dref ar ôl i dymor yr haf ddod i ben. Rwyf wrth fy modd o gael bod yn bartner allweddol i Ŵyl Grefft Cymru a gobeithiaf y bydd hwn yn ddigwyddiad blynyddol pwysig yng nghalendr digwyddiadau Ceredigion.”
Meddai Meirion Davies, Cyfarwyddwr Castell Aberteifi: “Mae hwn yn gyfle gwych i’r Castell wahodd pobl Aberteifi ac ymwelwyr o bell i fwynhau’r arddangosfa ryfeddol hon, Gŵyl Grefft Cymru. Mae’n briodol gan y byddai llawer o’r gwaith a’r crefftau a gynhyrchir ar gyfer yr ŵyl wedi bod yn rhan annatod o fywyd bob dydd yn hanes y Castell a’r dref: bydd crefftau sydd wedi goroesi treigl amser a darnau o’r safon uchaf yn dathlu gweledigaeth a sgìl pob gwneuthurwr. Mae’n gyffrous iawn.”
Gwahoddir ceisiadau gan wneuthurwyr i gymryd rhan yn y digwyddiad. Bydd y ceisiadau’n agor ar 12 Chwefror a’r dyddiad cau fydd 6pm ar 5 Ebrill. Am fanylion ac i wneud cais, ewch i www.craftfestival.co.uk/Apply/
Cynhyrchir Gŵyl Grefft Cymru mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Ceredigion, Cyngor
Celfyddydau Cymru a QEST.
Partneriaid Gŵyl Grefft Cymru yw:
Castell Aberteifi, Cered – Menter Iaith Ceredigion, Coleg Sir Gâr, Darganfod Ceredigion, Llantarnam Grange, Make it in Wales, Mwldan, Amgueddfa Wlân Cymru, Oriel Myrddin Gallery (Cyngor Sir Caerfyrddin), Queen Elizabeth Scholarship Trust (QEST) a Sea & Slate,
Y cefnogwyr yw: Awen Teifi, Canfas, Cyngor Tref Aberteifi, Cardigan Bay Brownies, Coleg Ceredigion, Crwst, Fforest a Theatr Byd Bach.
Cyhoeddir mwy o fanylion am raglen Gŵyl Grefft Cymru cyn hir. I gael gwybodaeth, yn cynnwys manylion yr arddangoswyr, ewch i https://www.craftfestival.co.uk/Wales/
Mae’r tocynnau’n mynd ar werth ar ddydd Mawrth 13 Chwefror 2024.
Ar Agor Dydd Gwener, Dydd Sadwrn a Dydd Sul 10am-5pm
Tocyn diwrnod i oedolion £7
Tocyn penwythnos 3 diwrnod i oedolion £13
Plant dan 18 oed yng Nghwmni Oedolyn AM DDIM
Gofalwyr AM DDIM
Gŵyl Grefft Cymru / Craft Festival Wales
Cynhelir Gŵyl Grefft Cymru yng Nghastell Aberteifi dros dri diwrnod rhwng 6 - 8 Medi 2024.
Ffilm gan Steve Brockette – Mis Chwefror 2023
Ffilm gan Steve Brockette - Mis Chwefror 2023
Iwan Bala – ‘Ethnograff(r)ica – Cathryn Gwynn
Ers sawl degawd, mae gwaith amrwd, digyfaddawd Iwan Bala wedi taflu goleuni ar faterion yn ymwneud â diwylliant, hunaniaeth genedlaethol, hanes a gwleidyddiaeth. Un o’i nodweddion cyfarwydd wrth gwrs yw’r defnydd o destun – yn slogan, cerdd neu sylwad – yn lythrennau pwerus duon mewn paentiadau lle mae tirwedd a ffigwr yn asio mewn negeseuon…
TU FEWN | TU FAS – bydoedd cymysg paentiadau Sam Vicary
TU FEWN | TU FAS – bydoedd cymysg paentiadau Sam Vicary
Fflim gan Lucy Burns
Cyfweliad gyda'r artist lleol Lucy Burns am ei harddangosfa Chwefror 2021 yn Canfas
Fflim gan Alison Lochhead
Cyfweliad gyda'r artist lleol Alison Lochhead am ei harddangosfa Hydref 2021 yn Canfas
Pete Bodenham – Neptune’s Bin Bag
Mae'r artist Pete Bodenham yn siarad am ei arddangosyn cyfredol yn Canfas ar gyfer oriel Art Of Protest yn cymryd drosodd
Angharad Taris – August 2021
Cyfweliad gyda'r artist lleol Angharad Taris am ei harddangosfa Awst 2021 yn Canfas
Adam Taylor – Awst 2021
Mae Adam Taylor yn siarad am ei harddangosfa yma yn Canfas - Awst 2021
Ffilm gan Guto Morgan, James Charlton, Sean Robinson & Clare Rose
Mae Guto Morgan n yn siarad am ei harddangosfa yma yn Canfas
Pauline Latham Ebrill 2021
Cyfweliad gyda'r artist a'r arlunydd Pauline Latham ar gyfer ei harddangosfa ym mis Ebrill 2021 yn Canfas
A ydych chi ar Gredyd Cynhwysol a rhwng 18 a 24 oed? Hoffech chi weithio mewn oriel gelf gyfoes annibynnol brysur yn hen dref farchnad Aberteifi yn Ne Ceredigion?
Rose Sanderson – Fflim Rhagfyr2020
Cyfweliad â Rose Sanderson am ei harddangosfa o baentiadau 'Cen' yn Canfas ym mis Rhagfyr 2020
Suzanne Harris – Ffilm Tachwedd 2020
Cyfweliad gyda'r artist a'r arlunydd Suzanne Harris ar gyfer ei harddangosfa ym mis Tachwedd 2020 yn Canfas
Ffilm Elizabeth Haines Medi 2020
Mae Elizabeth Haines yn siarad am ei harddangosfa yma yn Canfas
Ffilm Carole Hodgson Hydref 2020
Carole Hodgson Cyfweliad am ei gwaith a'i harddangosfa yma yn Canfas
Artistiaid ar Gelf: Sam Vicary
Yn hon, mae'r gyntaf o gyfres newydd, Artists on Art, arlunydd o Aberteifi ac arddangoswr Canfas rheolaidd, Sam Vicary, yn archwilio dylanwadau artistig, gweithiau annwyl, a'i phroses greadigol ei hun. Fel ei gweithiau celf, mae geiriau Sam yn graff, yn amrywiol ac yn procio'r meddwl, yn archwilio ei chariad at gelf, hen a newydd, ac…
Galwad Agored am Artistiaid Newydd ar gyfer 2021/2022
Unwaith y flwyddyn rydym yn gwahodd artistiaid neu artistiaid o Gymru sydd wedi'u lleoli yng Nghymru i gyflwyno eu gwaith ar gyfer arddangosfeydd yn y dyfodol. Dyddiad cau Chwefror 28fed 2021
Adolygiad arddangosfa Hydref 2020 – Carole Hodgson
Mae arddangosfa Carole yn Canfas yn ddathliad meistrolgar o wead, ffurf, golau a chysgod. Wedi eu harddangos yn syml ond yn effeithiol, caniateir i weithiau Carole siarad drostynt eu hunain, heb ymyrraeth, a gwahodd myfyrdod o bob ongl.
Elizabeth Haines – Adroddiad gan Caroline Juler
Mae gan Elizabeth Haines sioe newydd yn Canfas. Elizabeth Haines has a new show at Canfas.Mae'n cynnwys llond llaw o baentiadau haniaethol cymharol fawr, wedi'u trin yn hyderus y mae wedi'u gwneud dros y 18 mis diwethaf ac yn ystod y cyfnod cau pan demig eleni. Dywed fod yr unigedd gorfodol wedi caniatáu iddi ganolbwyntio'n…
Unaiza Ismail yn siard, 6 Dydd Gwenner 13eg o Rhagfyr 2019
Rydym yn falch iawn o groesawu'r artist Unaiza Ismail i siarad am ei hymarfer a dangos gwaith celf o'i phreswyliad pythefnos yn CreateSpace Wales yn Ferwig.
Cyfarfod 7.30pm Sad 9fed Tachwedd @ Stiwdio 3
Ar dydd Sadwrns 9fed o Mis Tachwedd am 7:30 yn Siwdio 3, Aberteifi, byddaf yn siarad ac hwyluso yn trafodaeth agor gyda Suzi ac Beth am 'what and how do art schools teach?'
‘Lleisiau Eraill’ yn Canfas
Rydym yn gyffrous iawn i fod yn rhan o Lwybr Cerddoriaeth 'Lleisiau Eraill', ac i gynnal y ddau artist rhyfeddol hyn: 5yb - Dydd Gwener - Particpant 5yb - Dydd Sadwrn - Accü
Adolygiad ar-lein Sir Benfro
One of the latest winds to blow into Cardigan’s flying sails is Oriel Canfas. It’s not the only art space here, but the gallery which opened in July is offering something different enough to make it stand out.
Sgwrs gan arlyundd UD Julia Rymer dydd Sadwrn 12 Hydref 2019
Arlunydd Julia Rymer yn siarad am eu waith ac yn dangos lluniadau a paentiadau o eu preswyliad pythefnos yn CreateSpace Wales yn Ferwig.
Ian Phillips – 28/9/19 – 22/11/19
Arddangosddfa newydd am gwneuthurwr print wedi'i seilio yn Aberystwyth yn Canfas 2020
Gostyngiad o 10% ar Ddeunyddiau Celf ar gyfer Cynfas Ffrindiau
10% discount on Fine Art Materials for 'Friends of Canfas' at Y Wiber