Ian Phillips
“Mae fy mhroses argraffu heddiw yn dechrau o hyd gyda mynd am dro a llyfr braslunio, fel ag erioed.”
Gwneuthurwr printiau o Ganolbarth Cymru yw Ian Phillips ac mae’n arbenigo mewn cyfresi olynol o argraffiadau toriadau leino a phren wedi eu seilio ar luniadau a wnaeth tra’n cerdded llwybrau pell a dilyn trywyddau diddordeb penodol. Mae’n troedio llwybrau unig dros fryniau tawel, lawr traciau trwy fforestydd neu ar hyd clogwyni’r arfordir yn chwilio am liw, patrwm a gwead i’w lluniadu. Ers symud i Gymru dros 25 mlynedd nôl bu’n gwneud printiau ar raddfa fawr o’r dirwedd a’r arfordir gan ddefnyddio sgiliau a fagodd trwy amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Gweithdy Print Djumbunji yn Awstralia ac astudio gyda’r Athro Wang Chou yn Hangzhou, Tseina. Roedd hefyd yn aelod o’r Cydweithrediad Print , Pine Feroda, yng Ngogledd Dyfnaint.

