Llio James
Gwehydd llaw cyfoes sy’n cwmpasu dylunio traddodiadol yn iaith heddiw.
Mae Llio yn gweithio o’i stiwdio yng Nghaerdydd, gan ddefnyddio gwŷdd dobby traddodiadol. Mae hi’n dylunio brethyn yn y stiwdio ac yn cael ei gynhyrchu mewn melinau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae hi hefyd yn creu darnau comisiwn unigryw sy’n cael eu gwehyddu â llaw. Daw ei hysbrydoliaeth o’r teimlad o berthyn i wlad a diwylliant a mynegir hyn yn gryf yn ei gwaith.
Fel gwehydd llaw profiadol a chreadigol, mae Llio yn gallu addasu’r gwaith wrth iddo esblygu i adeiladu brethyn cyfoes gyda’r nod o greu brethyn pwrpasol i’w drin, i’w ddefnyddio a’i garu o genhedlaeth i genhedlaeth.