André Stitt

Ar hyn o bryd yn Athro Celfyddyd Gain/Peintio yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, yn Gadeirydd ar y Ganolfan Ymchwil Celfyddyd Gain ac yn Gymrawd y Gymdeithas Gelf Frenhinol a’r Academi Addysg Uwch, mae enw da Andre yn seiliedig ar ei yrfa fel artist rhyngddisgyblaethol; yn 2008 cafodd Wobr Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn datblygu ei arferion peintio. Ers hyn mae ei waith wedi trawsnewid ac mae’n cynhyrchu gwaith yn seiliedig ar beintio.

Yr ysbrydoliaeth tu ôl i’w waith diweddar yw cynlluniau glas pensaernïol, yn benodol rhinweddau strwythurol ac emosiynol yr ystad dai creulonedig lle cafodd ei fagu yng Ngogledd Iwerddon yn y cyfnod ar ôl y rhyfel. Mae gwaith Andre wedi ei gynnwys mewn arddangosfeydd yn PS1, Efrog Newydd (2000), Venice Biennale (2005), Canolfan Celf Gyfoes Baltig, Lloegr (2005), Canolfan Celf a Diwylliant Bangkok (2008), Galerie Lehtinen, Berlin (2011), John Moores (2012), a’r Walker Art Gallery, Lerpwl. Cynrychiolir Andre gan Oriel Alice Black yn Llundain ac mae ei waith mewn casgliadau preifat yn y DU, UDA ac Asia.