![](https://www.canfas.co.uk/wp-content/uploads/2022/02/Cafall-RGB-small-scaled.jpg)
Lucy Burns
Wedi’i geni yn Abertawe a’i magu yn Sir Benfro, mae gan waith Lucy ymdeimlad cryf o le, wedi’i wreiddio yn nhirweddau gwyllt gorllewin Cymru. Mae yna ddylanwad trwm o lên gwerin, chwedloniaeth, straeon am y ddaear o’n cwmpas, byd natur, a phwysigrwydd sylfaenol o ble rydyn ni’n dod. Gan greu darluniau naïf, inc traddodiadol a gouache, mae gan Lucy ddiddordeb mewn cymryd naratifau clasurol ac weithiau hynafol, a’u hail-gyflunio ar gyfer y byd modern, mewn ffordd ystyrlon. Taniwyd ei diddordeb mewn llên gwerin Cymreig a Cheltaidd gan chwilfrydedd mewn hunaniaeth Gymreig, a sut y gallai’r straeon hyn gyfrannu ac atgyfnerthu’r cysylltiad hwn, a theimlad o berthyn.